Wrecsam 3–3 Yeovil                                                                         

Bu’n rhaid i Wrecsam a Yeovil fodloni ar bwynt yr un wedi gêm gyffrous lawn goliau ar y Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Rhys Murphy hatric i’r ymwelwyr ond roedd goliau Wright, Rutherford a Grant yn ddigon i sicrhau pwynt i’r Dreigiau.

Rhoddodd Murphy’r ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pedwar munud cyn i Akil Wright unioni o groesiad Ben Tollitt.

Adferodd Murphy fantais Yeovil gyda’i ail o’r prynhawn cyn i Paul Rutherford daro nôl i Wrecsam gydag ergyd o bellter ym munud olaf yr hanner cyntaf.

Rhoddodd Paul Rutherford y Cymry ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Murphy gwblhau ei hatric ac achub pwynt i’w dîm hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Dean Keates yn safleoedd y gwymp, yn yr unfed safle ar hugain, bwynt o’r gwaelod.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Pearson, Lawlor, Grant, Young, Summerfield, Tollitt (Patrick 72’), Carrington, Rutherford, Reid (Kennedy 33’), Wright

Goliau: Wright 23, Rutherford 45’, Grant 47’

Cardiau Melyn: Rutherford 63’, Pearson 90+4’

.

Yeovil

Tîm: Nelson, Collins, Smith (Duffus 84’), Hippolyte, D’Ath, Wilkinson (Skendi 35’), Murphy, Bradbury, Hutton (Dagnall 72’), Lee, Tilley

Goliau: Murphy 4’, 39’, 67’

.

Torf: 3,583