Y Barri 3–0 Pen-y-bont                                                                     

Y Barri a aeth â hi yn y gêm ddarbi rhyngthynt a Phen-y-bont yn y Cymru Premier ar Barc Jenner nos Wener.

Rhoddod y capten, Clayton Green, y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Cummings a McLaggon sicrhau’r tri phwynt wedi’r egwyl.

Dechreuodd Pen-y-bont yn addawol ond y Barri a oedd ar y blaen wrth droi diolch i gôl Green, y capten yn rhydd i sgorio wrth y postyn pellaf wedi i symudiad cic gornel deheuig dynnu amddiffynnwyr o’r cwrt cosbi.

Dyblodd y Barri eu mantais yn eiliadau cyntaf yr ail hanner gydag ergyd isel gywir Luke Cummings o du alln i’r cwrt cosbi ar ddiwedd symudiad taclus.

Cafodd Pen-y-bont gyfle euraidd i dynnu un yn ôl chwarter awr o’r diwedd pan y dyfarnwyd cic o’r smotyn ddadleuol iddynt am drosedd honedig George Ratcliffe ar Luke Borelli. Ond Ratcliffe a gafodd y gair olaf wrth i’r gôl-geidwad ifanc arbed cynnig Borelli o’r smotyn.

Y tîm cartref yn hytrach a gafodd y gôl nesaf wrth i Kayne McLaggon ymestyn y fantais yn y munudau olaf. Colloll Curtis Jemmett-Hudson y bêl mewn man peryglus a chyfunodd Callum Sainty a Momodou Touray yn dda i roi’r gôl ar blât i McLaggon, tair gôl a thri phwynt i’r Barri.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Barri yn ail o frig y tabl ac yn cadw Pen-y-bont yn ail o’r gwaelod.

.

Y Barri

Tîm: Ratcliffe, Hugh, Watkins, McLaggon, Phipps (Touray 65’), Fahiya, Cummings, Reffell (Sainty 82’), Spence, Green, Press

Gôl: Green 31’, Cummings 46’, McLaggon 89’

Cardiau Melyn: Fahyia 10’, Green 42’

.

Pen-y-bont

Tîm: Wilson, Owen, Saddler (Borge 86’), Jemmett-Hutson, Wood (Borrelli 60’), Jeffries, Harris, Griffiths, Warlow, George (Georgievsky 57’), Patten

Cerdyn Melyn: Owen 88’