Mae Kieffer Moore yn dweud bod gan dîm pêl-droed Cymru y gallu i wireddu eu breuddwyd o gyrraedd Ewro 2020, hyd yn oed os nad yw eu steil bob amser yn ddeniadol.

Sgoriodd y chwaraewr 27 oed yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros Azerbaijan yn Baku nos Sadwrn (Tachwedd 16) i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Ond os ydyn nhw’n curo Hwngari yng Nghaerdydd nos yfory (nos Fawrth, Tachwedd 19), byddan nhw’n cymhwyso’n awtomatig a does dim amheuaeth mai hon yw gêm fwyaf ei yrfa hyd yn hyn.

Does dim ots pa arddull sy’n eu helpu nhw i gyrraedd y rowndiau terfynol, meddai.

“Weithiau dyw e ddim y pêl-droed mwya’ deniadol ond os yw’n effeithiol, mae’n werth ei wneud,” meddai’r chwaraewr 6’5” sy’n galluogi Cymru i chwarae’r bêl yn yr awyr.

“Efallai nad yw amddiffynwyr yn gyfarwydd â mynd i fyny am y bêl ryw lawer mewn pêl-droed ryngwladol.

“Dw i’n credu bod gyda ni fantais sylweddol o wneud hynny.

“Dw i’n addas iawn ar gyfer y ffordd mae’r tîm hwn yn ymsefydlu ac yn chwarae.

“Fel y gallwch chi weld, mae’n dwyn ffrwyth i fi a dw i’n gweithio’n galed i’r tîm hefyd.”

Profiad o gwmpas y chwaraewr dibrofiad

Er mai llond dwrn o gapiau’n unig sydd gan Kieffer Moore, mae’n elwa o gael chwaraewyr profiadol fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Harry Wilson a Daniel James o’i gwmpas.

“Maen nhw’n dweud pethau neis,” meddai.

“Does ond angen i fi gario ymlaen a chadw dod â’r bêl i lawr a’i rhoi hi iddyn nhw.

“Yn amlwg maen nhw’n fygythiadau ymosodol mawr.

“Os galla i barhau i roi’r bêl iddyn nhw, mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda.

“Fe wna i rywbeth dros y tîm hwn, a thaflu fy nghorff o gwmpas. Mae dipyn haws i fi gyda’r chwaraewyr gorau yma.”