Mae Gareth Bale yn holliach i arwain tîm pêl-droed Cymru yn Azerbaijan, ond mae Aaron Ramsey ar y fainc wrth iddo gael ei gynnwys am y tro cyntaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2020.

Dydy Gareth Bale ddim wedi chwarae ers iddo sgorio yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Croatia fis diwethaf, a dydy e ddim wedi chwarae i Real Madrid ers Hydref 5 yn dilyn anaf i’w goes.

“Dydy Gareth ddim wedi chwarae, a dydy hynny ddim yn ddelfrydol, ond roedd e wedi ymarfer yn dda yn Real Madrid yr wythnos ddiwethaf,” meddai Ryan Giggs, rheolwr Cymru.

“Fe wnaethon ni drio ei lwytho ag ymarferion yr wythnos hon.

“Fe lwyddon ni i wneud hynny ddydd Mawrth a dydd Mercher.

“Mae e’n edrych ac yn teimlo’n dda.

“Mae’n dda cael Aaron yn ei ôl ond fel Gareth, mae prinder gemau’n rhywbeth fydd yn rhaid i fi edrych arno fe.

“Yn amlwg, rydyn ni’n rhedeg allan o gemau.

“Ond rydyn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar ennill y gêm hon, mae hi mor syml â hynny.”

Galw am bwyllo

Ar drothwy’r gêm, mae Ryan Giggs yn galw ar ei chwaraewyr i bwyllo ar y cae.

Mae Gareth Bale a Daniel James un cerdyn melyn yr un i ffwrdd o gael gwaharddiad ar gyfer gêm ola’r ymgyrch yn erbyn Hwngari yr wythnos nesaf.

Mae’n debygol iawn fod angen dwy fuddugoliaeth ar Gymru i gymhwyso’n awtomatig, ond maen nhw eisoes wedi sicrhau gêm ail gyfle.

Mae Cymru’n debygol o wynebu crochan yn Baku, ac mae Ryan Giggs yn awyddus i sicrhau bod ei chwaraewyr yn barod am hynny, yn enwedig ar ôl colli Joe Allen oherwydd gwaharddiad.

“Mae disgyblaeth yn rhan fawr o ennill gemau,” meddai.

“Ond rydych chi eisiau i’ch chwaraewyr fod yn gystadleuol gydag un llygad ar osgoi ildio troseddau twp a chael cerdyn melyn syml.”

Tîm Cymru: Wayne Hennessey, Ben Davies, Tom Lockyer, Chris Mepham, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Joe Morrell, Harry Wilson, Daniel James, Gareth Bale, Kieffer Moore