Mae Gareth Bale wedi cadarnhau amheuon pawb drwy ddweud fod yn well ganddo chwarae i Gymru na Real Madrid.

Mae’r ymosodwr dan y lach yn Sbaen am ei fod ar gael i chwarae tros ei wlad er nad yw wedi chwarae i Real Madrid ers Hydref 5.

Dyw Gareth Bale heb chwarae’r un gêm i’w glwb ers gêm gyfartal Cymru yn erbyn Croatia ar Hydref 13, ac mae anaf i’w goes wedi ei atal rhag hyd yn oed ymarfer gyda Real Madrid.

Ond mae wedi ymuno â charfan Cymru ar gyfer y gemau tyngedfennol yn erbyn Azerbaijan a Hwngari.

“Dw i bendant yn teimlo mwy o gyffro wrth chwarae i Gymru,” meddai Gareth Bale.

“Gyda Chymru, dw i’n siarad fy iaith fy hun ac rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus. Ond dyw hynny ddim yn newid yr hun dw i’n ei wneud ar y cae. Dw i wastad yn rhoi cant y cant lle bynnag ydw i, dyna dw i wastad yn ceisio ei wneud.”

Azerbaijan v Cymru yn fyw ar S4C am bump ddydd Sadwrn