Bydd tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Azerbaijan heb y gôl geidwad, Danny Ward, a’r chwaraewr canol cae, Tom Lwarence.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgelu bod y gôl geidwad yn mynd i golli’r gêm am resymau personol, tra bod y llall yn sâl.

Bydd Cymru’n mynd benben ag Azerbaijan ddydd Sadwrn gyda’r nod o ennill lle yng ngemau Euro UEFA (Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewrop) 2020.

Yn Baku fydd y gêm, a hyd yma mae gan Gymru wyth pwynt – maen nhw wedi chwarae chwe gêm hyd yn hyn.

Bydd Cymru’n wynebu Hwngari yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.