Dywed ymosodwr Cymru, sydd ar fenthyg yn Bournemouth, fod rheolwr Lerpwl Jurgen Klopp yn cadw mewn cysylltiad gydag ef.

Sgoriodd Harry Wilson ei bedwaredd gôl o’r tymor yn erbyn Newcastle penwythnos diwethaf a honnai’r ymosodwr fod derbyn negeseuon gan Jurgen Klopp yn codi ei hyder ac yn rheswm mawr dros ei fod yn chwarae gystal.

“Rwyf wastad mewn cysylltiad â Lerpwl, mae ganddyn nhw ddyn sy’n delio gyda chwaraewyr ar fenthyg, dw i mewn cysylltiad gydag ef yn wythnosol, a dw i’n derbyn ambell neges gan y rheolwr,” meddai Harry Wilson.

“Mae o’n dweud ei fod wedi bod yn edrych arnaf ac mi wnaeth o fy llongyfarch ar ôl i mi sgorio cic rydd yn erbyn Manchester City. Anfonodd neges i mi yn dweud ‘cic rydd wych!”