Mae Ben Cabango, yr amddiffynnwr canol ifanc, yn dweud ei fod yn gobeithio chwarae i Abertawe yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Mae’r Cymro Cymraeg 19 oed wedi’i gynnwys ar y fainc yn rheolaidd y tymor hwn o dan reolaeth Steve Cooper, ac fe gafodd ei gynnwys yn y tîm ar gyfer pob un o dair gêm yr Elyrch yng Nghwpan Carabao.

Daeth ei berfformiad gorau hyd yn hyn yn erbyn Watford, wrth iddo orfod ymdopi â Danny Welbeck ac Andre Gray.

Ond mae Ben Wilmot yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn ar hyn o bryd yn absenoldeb Cymro ifanc arall, Joe Rodon.

“Dw i’n amlwg mewn sefyllfa dda iawn yn y tîm nawr, ond mae’n gallu bod yn rhwystredig weithiau achos dw i ddim yn chwarae bob wythnos, a dyna’r cyfan dw i eisiau ei wneud,” meddai chwaraewr dan 21 Cymru.

“Ond dw i’n deall bo fi’n ifanc ac mae gyda ni amddiffynwyr canol da yma, ac maen nhw i gyd yn chwarae’n dda hefyd.

“Rhaid i fi weithio’n galed, cadw fy hun yn ffit, gwrando ar gyngor y bos a gobeithio y daw fy nghyfle cyn bo hir.”