Mae’r cefnwr chwith Neil Taylor wedi tynnu’n ôl o garfan bêl-droed Cymru “am resymau personol”, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae tîm Ryan Giggs yn herio Azerbaijan a Hwngari yr wythnos hon – dwy gêm y mae’n rhaid iddyn nhw eu hennill er mwyn bod â gobaith o gymhwyso ar gyfer Ewro 2020.

Mae Cymru’n wynebu Azerbaijan oddi cartref ddydd Sadwrn (Tachwedd 16), cyn herio Hwngari yng Nghaerdydd dridiau’n ddiweddarach (Tachwedd 19).

Roedd Neil Taylor, sy’n chwarae i Aston Villa ac sydd wedi ennill 43 o gapiau, yn y tîm a drechodd Azerbaijan yng Nghaerdydd ddeufis yn ôl.

Ond wnaeth e ddim chwarae yn erbyn Slofacia na Croatia fis diwethaf.