Mae Ashley Williams, capten tîm pêl-droed Cymru, yn dweud ei fod e’n “chwarae’n dda” ar hyn o bryd, a’i fod yn barod i wisgo’r crys coch cenedlaethol eto os daw’r cyfle.

Mae’r amddiffynnwr canol 35 oed wedi ennill 86 o gapiau, ond dim ond unwaith mae e wedi chwarae yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 2020, gyda Chris Mepham, Joe Rodon a Tom Lockyer uwch ei ben ar gyfer y safle erbyn hyn.

Mae Joe Rodon allan ag anaf ar hyn o bryd, a dydy Chris Mepham ddim wedi chwarae i Bournemouth ers mis Medi.

Ac er bod Ashley Williams heb glwb ar ddechrau’r tymor ar ôl gadael Everton, mae’n chwarae’n gyson i Bristol City, sydd wedi codi i safleoedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth.

“Dw i jest yn gwneud beth dw i’n ei wneud, a’r prif beth i fi yw ’mod i’n chwarae i Bristol City ac yn chwarae’n dda,” meddai.

“Dyna fy mhrif ffocws a phenderfyniad y rheolwr yw pa dîm mae’n ei ddewis wedyn. “Ro’n i wedi siomi na ches i chwarae yn erbyn Slofacia a Croatia ond dw i’n chwarae’n dda.

“Os ydw i’n teimlo y dylwn i fod yn chwarae, bydd y rheolwr yn cael gwybod.”

Mae Ashley Williams eisoes wedi dweud y bydd yn ystyried ei ddyfodol ar y llwyfan rhyngwladol ar ddiwedd yr ymgyrch, gyda Chymru’n gorfod cael dwy fuddugoliaeth i gadw eu gobeithion yn fyw.

“Bydd y gêm yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd yn anhygoel os gallwn ni ennill yn Azerbaijan,” meddai.