Casnewydd 1–2 Salford                                                                   

Methodd Casnewydd gic o’r smotyn hwyr wrth golli yn erbyn Salford ar Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Un gôl a oedd ynddi gyda deg munud yn weddill pan y cafodd cic o’r smotyn Abrahams ei harbed gan Howard rhwng y pyst i’r ymwelwyr.

Bu rhaid aros tan bum munud cyn yr egwyl am y gôl gyntaf, yr ymwelwyr yn mynd ar y blaen wrth i Cameron Burgess benio cic gornel cyn chwaraer Caerdydd, Craig Conway, i gefn y rhwyd.

Roedd Casnewydd yn gyfartal wrth droi serch hynny diolch i gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner, Nathan Pond yn troi’r bêl i’w rwyd ei hun.

Aeth Salford yn ôl ar y blaen yn neg munud cyntaf yr ail hanner, Lois Maynard yn penio o gic rydd.

Fe ddylai Casnewydd fod wedi cipio pwynt ddeg munud o’r diwedd pan ddyfarnwyd cic o’r smotyn iddynt am drosedd Richard Towell ar Corey Whitley. Ond cafodd cynnig Tristan Abrahams o ddeuddeg llath ei arbed gan Marc Howard a daliodd Salford eu gafael ar y fantais.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn seithfed yn nhabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: King, Inniss, O’Brien, Bennett, Willmott (Whitely 71’), Maloney (McNamara 62’), Sheehan, Dolan (Abrahams 66’), Haynes, Amond, Matt

Gôl: Pond [g.e.h.] 45+1’

Cardiau Melyn: Bennett 56’, Sheehan 67’

.

Salford

Tîm: Howard, Threlkeld, Pond, Burgess, Touray, Towell (Hughes 84’), Maynard, Jones, Conway (Piergianni 88’), Rooney (Dieseruvwe 79’), Jervis

Goliau: Burgess 40’, Maynard 54’

Cardiau Melyn: Threlkeld 64’, Hughes 88’

.

Torf: 3,947