Caerdydd 4–2 Birmingham                                                             

Cafwyd gêm i’w chofio yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn wrth i’r tîm cartref drechu Birmingham yn y Bencampwriaeth.

Roedd chwe gôl a dau gerdyn coch yn y gêm ond yn y diwedd, hatric Joe Ralls a oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Tri munud yn unig a gymerodd hi i Kristian Pedersen roi’r ymwelwyr ar y blaen, gôl flêr wedi i ergyd wreiddiol Lukaz Jutkiewicz gael ei harbed gan Neil Etheridge.

Roedd Caerdydd yn gyfartal wedi hanner awr, Ralls yn sgorio o’r smotyn wedi trosedd Harlee Dean ar Aden Flint.

Ac roedd yr Adar Gleision ar y blaen wyth munud yn ddiweddarach, yr amddiffynnwr, Curtis Nelson, yn sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb.

Ar ôl gweithio’n galed i ddod yn ôl i’r gêm, aeth Caerdydd i lawr i ddeg dyn wedi eiliad o ffolineb gan Danny Ward, y blaenwr yn derbyn cerdyn coch am dacl flêr ar Kerim Mrabti.

Y deg dyn a gafodd y gôl nesaf serch hynny, Ralls yn sgorio ei ail o’r gêm wedi pas gywir Nathaniel Mendez-Laing i’w lwybr.

Roedd Caerdydd yn wynebu diweddglo nerfus wedi i Ivan Sunjic dynnu un yn ôl i Birmingham o ugain llath funud o ddiwedd y naw deg.

Rhyddhawyd ychydig o’r pwysau serch hynny wrth Dean gael ei yrru am gawod gynnar ar ôl rhoi pen elin i Ralls.

A Ralls a gafodd y gair olaf wrth iddo gwblhau ei hatric yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, yn sgorio ei ail gic o’r smotyn o’r gêm yn dilyn trosedd Marc Roberts ar Omar Bogle.

Mae’r canlyiad yn gadael tîm Neil Warnock yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth, ond bedwar pwynt yn unig o’r safleoedd ail gyfle.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Nelson (Bamba 85’), Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Ralls, Mendez-Laing (Paterson 80’), Ward, Hoilett (Bogle 75’)

Goliau: Ralls [c.o.s.] 30’, 69’, [c.o.s.] 90+5’, Nelson 38’

Cerdyn Melyn: Peltier 90+3’

Cerdyn Coch: Ward 52’

.

Birmingham

Tîm: Camp, Colin, Roberts, Dean, Pedersen, Crowley (Bailey 80’), Bellingham (Gimenez 69’), Sunjic, Villalba Rodrigo, Jutkiewicz, Mrabti (Maghoma 65’)

Goliau: Pedersen 3’, Sunjic 89’

Cardiau Melyn: Sunjic 32’, Jutkiewicz 85’, Roberts 90+5’

Cerdyn Coch: Dean 90+3’

.

Torf: 23,778