Dylai tîm pêl-droed Abertawe fod wedi cipio’r triphwynt yn Barnsley brynhawn ddoe, yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal 1-1 ar ôl i’r Elyrch fethu sawl cyfle i sicrhau’r fuddugoliaeth yn Oakwell, lle mae gan y tîm cartref reolwr dros dro.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 66 munud diolch i Andre Ayew, ond unionodd y tîm cartre’r sgôr dair munud yn ddiweddarach drwy Alex Mowatt.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Elyrch yn drydydd yn y Bencampwriaeth, ac yn gyfartal ar bwyntiau â Notts Forest a QPR.

“Dw i’n gwybod fod y gêm wedi mynd i gyfeiriad arbennig ac fe gafodd Barnsley ambell eiliad dda yn yr hanner cyntaf,” meddai’r rheolwr.

“Roedden ni’n teimlo y byddai hi’n gêm annhrefnus gyda’r amgylchiadau yma gyda’r newid yn y rheolwr.

“Felly fe wnaethon ni gynllunio iddyn nhw fod yn wahanol i’r hyn roedden nhw.

“Roedden ni’n credu y bydden nhw’n fwy uniongyrchol o lawer yn ystod y gêm gyda’u tafliadau hir, ond fe wnaethon ni baratoi ar gyfer hynny.”

Colli cyfle

Ond mae Steve Cooper yn teimlo bod ei dîm wedi colli sawl cyfle i fynd ar y blaen ac i gipio’r holl bwyntiau.

“Aethon ni ar y blaen o 1-0 yn ôl ein cynllun, fe wnaethon ni fethu dau gyfle cyn hynny, felly fe ddylen ni fod wedi bod ar y blaen o ddwy neu dair.

“Wnaethon ni ildio ar adeg wael ac mae’n eich gadael chi’n anfodlon oherwydd dylen ni fod wedi mynd yn ein blaenau i ennill y gêm.”