Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y chwaraewyr yn hyderus ar drothwy taith i Oakwell i herio Barnsley yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 19).
Collodd yr Elyrch o 2-1 gartref yn erbyn Stoke yn y gêm olaf cyn y gemau rhyngwladol yn ddiweddar, ond mae’n dweud bod y cyfnod i ffwrdd o Abertawe wedi gwneud lles i’r chwaraewyr a’u bod nhw wedi dychwelyd i’r cae ymarfer yn Fairwood yn llawn hyder.
Fe fu Connor Roberts a Joe Rodon yn chwarae i Gymru, Bersant Celina i Cosofo, Kristoffer Nordfeldt i Sweden a nifer o’r chwaraewyr ar y cyrion i dimau dan 21 eu gwledydd.
“Roedden ni’n gwybod beth oedden ni eisiau ei gael allan o [y cyfnod rhyngwladol] yn nhermau llwyth gwaith wrth ymarfer a rhywfaint o seibiant rydych chi am ei roi i’r chwaraewyr ond hefyd pan ydych chi’n ymarfer, beth yn union oedd y canolbwynt,” meddai’r rheolwr.
“Rydych chi’n anfon y chwaraewyr rhyngwladol i ffwrdd gan obeithio y byddan nhw’n cael profiad da, y byddan nhw’n cael chwarae rhywfaint o’r gemau ac y byddan nhw’n dychwelyd yn well chwaraewr ac yn perfformio’n dda.
“Dw i’n teimlo bod y cyfan wedi mynd yn iawn, a dw i’n hapus gyda gwaith y bois yr wythnos hon.”
Ffitrwydd ac anafiadau
Mae Steve Cooper wedi cadarnhau bod yr asgellwr Kris Peterson yn holliach a’i fod yn “edrych yn dda”.
Prin yw’r amser mae’r chwaraewr o Sweden wedi’i gael ar y cae ers ymuno â’r Elyrch, ond mae’n dweud bod ei berfformiadau diweddar wrth ymarfer wedi creu argraff arno.
“Mae’n edrych yn dda iawn, ac yn gwthio’n fawr, rhaid i fi ddweud,” meddai.
“Mae e i’w weld wedi setlo’n dda yn yr ardal.
“Dw i’n gwybod ei fod e’n hapus iawn yn y clwb.
“Mae’n sicr ei fod e wedi bod yn rhwystredig gyda’r amser mae e wedi treulio’n chwarae, ond dydy e ddim wedi dangos hynny.
“Dw i wedi siarad â nifer o bobol o glybiau eraill sydd wedi cael y profiad o weld chwaraewyr ifainc o dramor yn dod i mewn, a pha mor amrywiol yw’r amser mae’n ei gymryd i ddod i arfer â phopeth.
“Mae pawb yn wahanol, ac mae Kris yn cymryd ychydig yn hirach.”
Aldo Kalulu
Mae’n dweud bod y blaenwr Aldo Kalulu yn parhau i wella o anaf, a’i fod e “yng nghyfnod olaf ei adferiad”.
“Mae e wedi cael anaf anodd, a bod yn deg,” meddai’r rheolwr.
“I ni, mae e wedi cael anaf i’w ffêr ond i’r meddygon, fe fu’n gymhleth i raddau, nid o’i ran e’n bersonol ond o ran natur yr anaf.
“Fe ddywedodd y meddygon o’r dechrau fod y pethau hyn yn gallu cymryd cryn amser ac nad ydyn nhw byth yn hawdd.”
Mae’n dweud ei fod yn disgwyl iddo ddychwelyd i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Wigan fis nesaf.
Bersant Celina – asgellwr neu ymosodwr?
Ar ôl i Bersant Celina fod yn cynrychioli Cosofo, mae’r ddadl yn parhau ynghylch ei safle gorau ar y cae.
Tra bod ei dîm cenedlaethol yn ei weld fel rhif 10 naturiol ym mlaen y cae, mae Steve Cooper yn arbrofi wrth ei ddewis e ar yr asgell.
“Mae e’n gallu gwneud y cyfan,” meddai.
“Dw i’n credu mai’r hyn rydyn ni’n ei wneud yw dewis timau sy’n ffitio cynllun y gêm a phwy sydd orau i fynd i ble a chwarae’n dda mewn gemau unigol.
“Weithiau gall hynny ddigwydd drwy ddewis asgellwr yn y canol, ar y tu allan, chwaraewr troed dde ar yr ochr dde, chwaraewr troed dde ar y chwith.
“Gall fod yn unrhyw beth lle’r ydyn ni’n credu mae yna lefydd i’w hecsbloetio ond mae gyda ni opsiynau da.
“Mae Bersant yn rhif 10 sy’n gallu chwarae’n llydan a dyna sut fyddwn ni’n ei ddefnyddio fe.”