Bydd cyn-reolwr Abertawe, Garry Monk, yn dod a’i dîm newydd Sheffield Wednesday i Stadiwm Dinas Caerdydd heno (Hydref 18).
Mae disgwyl y bydd yn cael ymateb ffyrnig gan gefnogwyr Caerdydd ac yntau wedi chwarae i’r Elyrch yn ogystal â threulio cyfnod fel eu rheolwr.
Daw Sheffield Wednesday i ‘r brifddinas yn wythfed yn y Bencampwriaeth – mae Caerdydd yn 11fed a thri phwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr.
“Ein wythnos anoddaf”
Yn ôl rheolwr Neil Warnock hon fydd wythnos anoddaf Caerdydd y tymor hwn gan eu bod yn chwarae tair gêm.
Wedi chwarae yn erbyn Sheffield Wednesday bydd yr Adar Gleision yn trafeilio i Lundain i chwarae yn erbyn Millwall nos Fawrth, cyn herio Abertawe mewn gêm ddarbi fawr.
“Mae’n rhaid i ni gymryd hi un gêm ar y tro,” meddai Neil Warnock, “ond mae’r holl drafeilio yr wythnos yma, mynd i Lundain ddydd Mawrth, mae’n debyg mai hon yw wythnos anodda’r tymor i ni.”
Mae’r gic gyntaf am 7:45 yr hwyr.