Mae cyn-ymosodwr Cymru, Steve Morison, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r gêm, ac yn bwriadu dychwelyd i’w hen glwb i ddechrau ar yrfa yn hyfforddi.

Mae’r gŵr, 36, wedi gadael Amwythig er mwyn dechrau ar swydd hyfforddi yn Northampton – y clwb proffesiynol cyntaf y chwaraeodd iddo pan oedd yn llanc, 18, yn 2002.

Gwisgodd Steve Morison grys coch Cymru 20 o weithiau rhwng 2010 a 2012, a sgoriodd un gôl dros ei wlad.

Er yn hanu o ardal Enfield yn Llundain, roedd ganddo’r hawl i gynrychioli Cymru oherwydd bod ei fam-gu wedi cael ei geni yn Nhredegar.

Yn ystod ei yrfa ar y cae, bu Steve Morison yn chwarae i glybiau Bishop’s Stortford, Stevenage, Leeds a Norwich.