Gêm gyfartal gafodd Cymru yn erbyn Slofacia neithiwr (Hydref 10).

Er hynny dyweodd rheolwr Cymru Ryan Giggs bod y canlyniad yn “gam ymlaen” yn eu gobeithion o gyrraedd Ewro 2020.

Rhoddodd Kieffer Moore Cymru ar y blaen wedi 25 munud cyn i Juraj Kucka sgorio i’r tîm cartref wedi 53 munud.

“Ar y cyfan roeddwn yn hapus efo gêm gyfartal,” meddai Ryan Giggs.

“Rwy’n credu fod y canlyniad yn gam ymlaen. Dyw hi byth yn hawdd oddi cartref ac mae wastad yn agos.”

Bydd Cymru yn herio Croatia ddydd Sul (Hydref 13) â’r gic gyntaf am 7:45 yr hwyr.