Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi beirniadu safon y dyfarnu ar ôl gwylio’i dîm yn colli o 4-2 yn West Brom brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 6).

Rhwydodd Robert Glatzel i’r Adar Gleision cyn i’r llumanwr benderfynu bod Sean Morrison yn camsefyll ond yn ôl Neil Warnock, doedd e ddim yn ymyrryd â’r chwarae.

“Roedd hyd yn oed eu bois nhw yn dweud ei bod yn gôl dda,” meddai.

“Roedd Sean Morrison yn camsefyll ond fe gododd [y llumanwr] ei luman yn gyflym, yn hytrach nag aros fel maen nhw wedi cael eu cynghori i wneud, ac yna fe ddywedodd wrth y dyfarnwr fod ‘rhif pedwar yn camsefyll’.

“Ond yna, fe ddylai’r dyfarnwr fod wedi gweld nad oedd rhif pedwar yn ymyrryd, ac fe ddylai’r gôl fod wedi cael ei rhoi.

“Rydych chi’n disgwyl i bethau felly fod yn gywir ar y lefel yma.”

Mae’n dadlau bod crys wedi cael ei dynnu cyn gôl arall cyn i chwaraewr gael ei lorio, ac nad oedd y pedwerydd swyddog wedi ymyrryd er iddo weld y digwyddiad.

“Dw i’n siomedig oherwydd mae Graham Salisbury yn ddyfarnwr profiadol,” meddai wedyn.