Mae’n rhaid i ganlyniadau tîm pêl-droed Abertawe yn Stadiwm Liberty wella, yn ôl y capten Matt Grimes.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r Elyrch golli o 2-1 yn erbyn Stoke brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 5).
Mae’r Elyrch bellach heb fuddugoliaeth gartref mewn tair gêm, ar ôl i Scott Hogan a’r cyn-Alarch Sam Clucas rwydo i sicrhau’r fuddugoliaeth yn dilyn gôl Andre Ayew yn y funud gyntaf.
Mae’r Elyrch wedi ildio goliau hwyr yn erbyn Stoke, Nottingham Forest a Reading, ac wedi cwympo i’r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth.
“Doedden ni jest ddim yn ddigon da, mae hi mor syml â hynny,” meddai Matt Grimes.
“Roedden ni’n gwybod cyn y gêm fod ganddyn nhw fygythiadau a chwaraewyr da, ond wnaethon ni ddim chwarae yn ôl ein cryfderau o gwbl.
“Roedden ni’n edrych yn nerfus ac ar binnau.
“Doedden ni ddim yn ni ein hunain o gwbl, ac roedd hynny’n destun siom.
“Dw i ddim yn credu bod un peth unigol ar fai.
“Fel tîm, at ein gilydd, doedden ni ddim yn ddigon da.
“Roedd yn gyfle gwych i aros ar frig y gynghrair.
“Dydy ein canlyniadau gartref ddim yn ddigon da ar hyn o bryd, ac mae angen i ni roi trefn ar hynny.”