West Brom 4–2 Caerdydd                                                               

Colli fu hanes Caerdydd mewn gêm llawn goliau yn erbyn West Brom yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref dair gôl ar y blaen yn yr Hawthorns cyn i Danny Ward dynnu dwy yn ôl i’r Cymry. Ond dychwelyd yn waglaw a wnaeth yr Adar Gleision wedi i’r Baggies ychwanegu pedwaredd yn yr eiliadau olaf.

Ugain munud a oedd ar y cloc pan roddodd Matheus Pereira y tîm cartref ar y blaen gydag ergyd isel gywir o du allan i’r cwrt cosbi.

Ergyd arall o bellter a ddyblodd mantais West Brom dri munud cyn yr egwyl, Grady Diangana yn cwblhau gwrthymosodiad chwim.

Roedd y tri phwynt yn ymddangos yn ddiogel pan rwydodd Charlie Austin ugain munud o’r diwedd, funud yn unig wedi i luman y dyfanwr cynorthwyol atal Robert Glatzel rhag tynnu un yn ôl i Gaerdydd.

Ond hyd yn oed dair gôl ar ei hôl hi, ni wnaeth y Cymry roi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn ôl ynddi bum munud o ddiwedd y naw deg diolch i ddwy gôl gyflym gan yr eilydd, Ward.

Sgoriodd y gyntaf gydag un o’i gyffyrddiadau cyntaf wedi gwaith creu eilydd arall, Nathaniel Mendez-Laing. A thrydydd eilydd a greodd y llall iddo, cic gornel Josh Murphy yn rhoi peniad ar blât.

Wrth i’r Adar Gleision chwilio am drydedd yn y munudau olaf roedd bylchau yn y cefn yn annorfod a manteisiodd Romaine Sawyers ar un o’r bylchau hynny i sicrhau’r tri phwyt i’w dîm gyda phedwaredd gôl West Brom yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn codi West Brom dros Abertawe i frig y tabl ac yn gadael Caerdydd yn yr unfed safle ar ddeg.

.

West Brom

Tîm: Johnstone, Furlong, Ajayi, Bartley, Ferguson, Livermore, Sawyers, Phillips (Krovinovic 73’), Costa Pereira, Diangana (Edwards 53’), Austin (Zohore 81’)

Goliau: Costa Pereira 20’, Diangana 42’, Austin 71’, Sawyers 90+3’

Cerdyn Melyn: Livermore 32’

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Peltier, Morrison, Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Whyte (Murphy 80’), Peterson (Mendez-Laing 58’), Hoilett, Glatzel (Ward 73’)

Goliau: Ward 75’, 86’

Cerdyn Melyn: Pack 88’

.

Torf: 25,140