Caerdydd 3–0 QPR
Roedd tair gôl a thri phwynt i Gaerdydd wrth iddynt guro QPR yn gyfforddus yn y Bencampwriaeth nos Fercher.
Morrison, Pack a Paterson a sgoriodd y goliau i’r tîm cartref yn Stadiwm y Ddinas.
Er i QPR ddechrau’n addawol, aeth Caerdydd ar y blaen wedi deg munud gyda pheniad Sean Morrison o gic rydd Lee Tomlin.
Yr ymwelwyr a oedd yn llwyr reoli’r meddiant ond aeth y tîm cartref ym mhellach ar y blaen yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf, Marlon Pack yn rhwydo o groesiad Gavin Whyte.
Tarodd Ryan Manning y postyn wrth i QPR barhau i gael y gorau o’r meddiant wedi’r egwyl ond roedd tri phwynt Caerdydd yn ddiogel wedi i’r eilydd, Callum Paterson, rwydo gyda tharan o ergyd ddeunaw munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn codi tîm Neil Warnock i’r degfed safle yn y tabl, bump pwynt y tu ôl i Abertawe ar y brig wedi deg gêm.
.
Caerdydd
Tîm: Smithies, Peltier, Morrison, Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Whyte (Hoilett 87’), Tomlin (Paterson 65’), Murphy, Glatzel (Ward 81’)
Goliau: Morrison 11’, Pack 45+1’, Paterson 72’
Cardiau Melyn: Paterson 84’, Whyte 87’
.
QPR
Tîm: Kelly, Rangel (Kane 68’), Leister, Cameron, Manning, Ball (Wells 63’), Scowen, Osayi-Samuel, Chair (Pugh 80’), Eze, Hugill
Cerdyn Melyn: Manning 84’
.
Torf: 21,387