Charlton 1–2 Abertawe                                                                    

Cododd Abertawe i frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Charlton yn y Valley nos Fercher.

Pwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar ddechrau’r noson ac er i’r tîm cartref fynd ar y blaen yn gynnar, fe darodd yr Elyrch yn ôl i gipio’r tri phwynt a dychwelyd i frig y tabl.

Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan wyrodd ergyd Jonathan Leko heibio i Freddie Woodman yn y gôl i roi Charlton ar y blaen.

Ymatebodd Abertawe’n dda ac roeddynt yn haeddiannol gyfartal chwarter awr yn ddiweddarach pan gwblhaodd Yan Dhanda symudiad taclus gyda chymorth gwyriad arall.

Daeth Jay Fulton yn agos at roi’r ymwelwyr ar y blaen ar ddau achlysur cyn yr egwyl ond aros yn gyfartal a wnaeth hi tan hanner amser.

Parhau i bwyso a wnaeth Abertawe wedi’r egwyl ac fe ddaeth y gôl holl bwysig wedi ugain munud, Ayew yn troi’r bêl i gefn y rhwyd wedi peniad Joe Rodon o gic gornel Matt Grimes.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Steve Cooper o’r chweched safle i frig y Bencampwriaeth ond dim ond tri phwynt sydd yn gwahanu’r chwech uchaf wedi deg gêm.

.

Charlton

Tîm: Phillips, Matthews, Lockyer, Pearce, Purrington (Forster-Caskey 77’), Field, Cullen, Leko (Aneke 66’), Oztumer (Williams 66’), Gallagher, Bonne

Gôl: Leko 2’

Cardiau Melyn: Purrington 50’, Gallagher 75’, Lockyer 83’, Pearce 90’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, van der Hoorn, Rodon, Naughton, Fulton, Grimes, Ayew, Dhanda (Carroll 78’), Celina (Wilmot 90+5’), Baston

Goliau: Dhanda 17’, Ayew 65’

Cerdyn Melyn: Baston 90

.

Torf: 15,741