Swindon 0–2 Casnewydd
Mae dechrau addawol Casnewydd i’r tymor yn yr Ail Adran yn parahu yn dilyn buddugoliaeth dda oddi cartref yn erbyn Swindon ar y County Ground brynhawn Sadwrn.
Mark O’Brien a Jamille Matt a gafodd y goliau holl bwysig, y naill yn hwyr yn yr hanner cyntaf a’r llall yn hwyr yn yr ail.
Peniodd O’Brien yr ymwelwyr ar y blaen o gic gornel Robbie Willmott wyth munud cyn yr egwyl.
Roedd Swindon yn well ar ôl troi a bu bron iddynt unioni pethau ond taro’r trawst a wnaeth cynnig y Cymro, Lloyd Isgrove.
Roedd tri phwynt yr Alltudion yn ddiogel wyth munud o’r diwedd pan gyfunodd y ddau flaenwr ar gyfer yr ail, Padraig Amond yn croesi a Matt yn gwyro’r bêl i gefn y rhwyd.
Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Mike Flynn yn chweched yn y tabl, ddau bwynt y tu ôl i Exeter ar y brig.
.
Swindon
Tîm: McCormick, Hunt, Conroy (May 9’), Fryers, Iandolo, Isgrove, Grant, Rose (Reid 81’), Woolery (Doughty 72’), Doyle, Yates
.
Casnewydd
Tîm: King, McNamara, Howkins, O’Brien, Haynes, Bennett, Willmott, Sheehan, Labadie (Dolan 88’), Matt, Abrahams (Amond 72’)
Goliau: O’Brien 38’, Matt 82’
Cerdyn Melyn: O’Brien 55’
.
Torf: 7,843