Hull 2–2 Caerdydd                                                                              

Achubodd gôl hywr Danny Ward bwynt i Gaerdydd yn erbyn Hull yn Stadiwm KCOM yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd Hull yn meddwl eu bod wedi ei hennill hi gyda gôl Jordy de Wijs funud o ddiwedd y naw deg cyn i Ward gipio pwynt i’w dîm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Rhodd Kamil Grosicki y tîm cartref ar y blaen ym munud olaf yr hanner cyntaf gyda chic rydd gelfydd o ugain llath a mwy.

Tarodd Caerdydd yn ôl yn gynnar yn yr ail gyfnod pan rwydodd Robert Glatzel o groesiad Leandro Bacuna.

Felly yr arhosodd hi am hanner awr a mwy wedi hynny, cyn y ddrama hwyr. Peniodd de Wijs Hull yn ôl ar y blaen o gic rydd gywir Jarrod Bowen cyn i Ward unioni pethau yn yr ail funud o amser brifo, yn gorffen yn daclus wedi peniad Aden Flint i’w lwybr.

Cafwyd cyfraniad pwysig gan Flint yn y pen arall yn yr eiliadau olaf wrth iddo glirio oddi ar y llinell i sicrhau bod yr Adar Gleision yn dychwelyd i Gymru gyda rhywbeth o’r gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Neil Warnock yn ddeuddegfed yn y tabl.

.

Hull

Tîm: Long, Lichaj, Burke, de Wijs, Fleming, Stewart, Bowen, Da Silva Lopes (Bowler 62’), Itvine, Grosicki (Honeyman 85’), Magennis (Eaves 74’)

Goliau: Grosicki 44’, de Wijs 89’

Cardiau Melyn: Stewart 23’, Burke 90+4’

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Peltier, Morrison, Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Ralls, Whyte (Ward 71’), Glatzel (Mendez-Laing 71’), Hoilett (Murphy 82’)

Goliau: Glatzel 55’, Ward 90+2’

.

Torf: 10,756