Caernarfon 1–0 Y Drenewydd                                                       

Caernarfon a aeth â hi yn y frwydr canol y tabl rhyngddynt a’r Drenwydd yn y JD Cymru Premier ar yr Oval nos Wener.

Dechreuodd y ddau dîm y noson gyda dim ond tri phwynt yn eu gwahanu yn y chweched a’r seithfed safle yn y tabl. Ond hedodd y Caneris yn glir o’r Robiniaid diolch i gôl ffab Breese yn yr ail hanner.

Caernarfon a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a dim ond lluman camsefyll y dyfarnwr cynorthwyol a wnaeth eu hatal rhag mynd ar y blaen ar ddau achlysur yn yr ugain munud cyntaf.

Gôl-geidwad y Drenewydd, Dave Jones, a oedd y rhwystr nesaf, gyda’r gŵr rhwng y pyst yn gwneud yn dda i atal Leo Smith a Darren Thomas un yn erbyn un.

Ac roedd hi’n dechrau ymddangos nad oedd pethau’n mynd o blaid Caernarfon pan darodd cynnig da Danny Brookwell y trawst wrth i’r egwyl agosau.

Er na chreodd y tîm cartref gymaint o gyfleoedd clir wedi’r egwyl, fe gawsant eu gôl haeddiannol. Jamie Breese a sgoriodd honno, yn codi’r bêl yn gelfydd dros Jones yn y gôl wedi iddo yntau wneud smonach llwyr o geisio’i chlirio o’i gwrt cosbi.

Lifumpa Mandwe a ddaeth agosaf i’r Drenewydd, yn gorfodi arbediad da gan Alex Ramsay ugain munud o’r diwedd.

Ond nid oedd tri phwynt Caernarfon o dan unrhyw fygythiad mewn gwirionedd ac roedd angen cliriad oddi ar y llinell i atal Darren Thomas rhag dyblu eu mantais yn y munudau olaf.

Mae’r canlyniad yn codi Caernarfon i’r pedwerydd safle yn y tabl ac yn gadael y Drenewydd yn seithfed.

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, J. Williams, Craig, Crowther, Breese (C. Jones 74’) Brookwell (John 90’), Edwards, R. Williams, Thomas Bradley (S. Jones 73’), Smith

Gôl: Breese 55’

Cardiau Melyn: Ramsay 52’, Craig 90+3’

.

Y Drenewydd

Tîm: Jones, McAllister (Flint 76’), Mills-Evans, Denny (Harry 70’), Mitchell, Rushton (Kenton 70’), Mwandwe, Williams, Fletcher, Kelly, Barnes

Cardiau Melyn: Mandwe 48’, Fletcher 51’

.

Torf: 803