Mae cynnydd o bron i 50% wedi bod yn nifer y troseddau casineb mewn gemau pêl-droed o’i gymharu â’r tymor diwethaf.

Yn ôl data gan y Swyddfa Gartref cafodd troseddau casineb wedi cael eu nodi mewn 193 o gemau rhwng Awst 1, 2018 a Gorffennaf 31, 2019, o’i gymharu gyda 131 y flwyddyn gynt.

Mae’r ystadegau yn awgrymu hefyd fod 79% o’r achosion yn ymwneud â hil.

Mae cwymp wedi bod yn nifer y bobol a gafodd eu harestio am wneud sylwadau hiliol o 15 yn 2017-18 i 14 yn 2018-19.