Mae capten tîm pêl-droed Y Barri wedi cael ei wahardd am chwe mis gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi iddo gael ei gyhuddo o ymddwyn yn ymosodol tuag at ddyfarnwr.

Daw’r gwaharddiad wedi digwyddiad yn ystod gêm rhwng Y Barri a Phenybont ar Awst 16.

Cafwyd Jordan Cotterill yn euog o ymosod yn unol â rheolau Cymdeithas Pêl-droed Cymru, er na fynychodd y gwrandawiad.

Mae gan Jordan Cotterill tan Fedi 25 i apelio yn erbyn y gwaharddiad.