Mae Alan Tate, cyn-amddifynnwr canol tîm pêl-droed Abertawe, wedi camu i fyny i weithio gyda thîm hyfforddi Steve Cooper.

Fe fu’n gweithio gyda’r tîm ieuenctid ers tro, gan gymryd cyfrifoldeb am y timau dan 16 ac 18, ac fe fydd yn parhau i fod yn ddolen gyswllt rhwng yr Academi a’r tîm cyntaf.

Ond fe fydd e hefyd yn parhau â’i waith dros y chwe wythnos ddiwethaf ochr yn ochr â Steve Cooper, Mike Marsh a Martyn Margetson.

Chwaraeodd e mewn bron i 350 o gemau i’r Elyrch, ac fe gynrychiolodd e’r clwb ym mhob adran yn ystod ei yrfa a barodd 13 o dymhorau gyda’r clwb.

Cafodd ei benodi’n gapten ar gyfer gêm gynta’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Mae gan Alan nifer o rinweddau ac mae e’n ychwanegiad gwych i’r tîm cyntaf,” meddai’r cadeirydd Trevor Birch.

“Mae ei gariad a’i angerdd am y clwb yn hysbys ac fel Leon Britton, mae’n bwysig cael pobol yma sydd wedi bod yn rhan o daith Abertawe ac sy’n deall pwy ydyn ni.

“Ond mae Alan wedi profi yn ystod ei amser yn gweithio gyda Steve ei fod e’n alluog iawn ac y gall e chwarae rhan bwysig gyda’r staff hyfforddi.”