Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad oedd ei dîm yn ddigon da i guro Nottingham Forest ddoe (dydd Sadwrn, Medi 14).

Y golled o 1-0 yn Stadiwm Liberty yw’r tro cyntaf i’r Elyrch golli’r tymor hwn o dan eu rheolwr newydd, ac maen nhw’n aros ar frig y Bencampwriaeth er gwaetha’r canlyniad.

Llwyddon nhw i atal yr ymwelwyr rhag sgorio tan y pum munud olaf, pan rwydodd yr eilydd Alfa Semedo i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Daw’r fuddugoliaeth drannoedd cyhoeddi mai Steve Cooper sydd wedi ennill gwobr Rheolwr y Mis, ar ôl dechrau’r tymor gyda phum buddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn eu chwe gêm gyntaf.

Byddai buddugoliaeth arall yn golygu’r dechreuad gorau erioed i’r tymor i’r Elyrch.

Perfformiad siomedig

Ond doedd yr Elyrch ddim wedi tanio o gwbl yn ystod y gêm, gydag un ergyd yn unig at y gôl wedi’i harbed gan Brice Samba.

Daeth y gôl fuddugol gan ymosodwr sydd ar fenthyg o Benfica, ac a sgoriodd ei gôl gyntaf erioed i’r clwb, yn dilyn croesiad i’r cwrt chwech gan Lewis Grabban.

Mae Nottingham Forest bellach yn ddi-guro mewn wyth gêm.

“Dw i ddim yn credu ein bod ni wedi gwneud digon i ennill y gêm, yn sicr,” meddai Steve Cooper.

“A dyna, am wn i, yw’r peth mwyaf rhwystredig.

“Dw i ddim yn credu ein bod ni’n haeddu colli chwaith, ond fe wnaethon ni gamgymeriad ac ildio gôl ofnadwy mewn gwirionedd.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi cael problemau ym mlaen y cae ac yn y pen draw, fe wnaeth hynny gostio’n ddrud i ni oherwydd wnaethon ni ddim creu digon o gyfleoedd.”