Bydd Caerdydd yn herio Derby yn y Bencampwriaeth heno (Medi 13), gyda’r gic gyntaf am 7:45 yr hwyr a’r gêm yn fyw ar Sky.

Dwy fuddugoliaeth, dwy gêm gyfartal a dwy golled yw hanes Caerdydd hyd yn hyn ac mae’n nhw’n y trydydd safle ar ddeg yn y Bencampwriaeth.

Bydd Derby yn gobeithio am fuddugoliaeth gan mai dim ond un gêm maen nhw wedi ennill y tymor hwn.

Dywed rheolwr Caerdydd, Neil Warnock: “Rydym wedi gwneud ein gwaith cartref ac rydym yn gobeithio ennil ein gêm gyntaf oddi-cartref.”

Mae yno sawl aelod o garfan Caerdydd wedi eu anafu, gan gynnwys, Sol Bamba, Neil Etheridge a Marlon Pack.