Bydd Clwb pêl-droed Caernarfon yn herio Penybont ddydd Sadwrn (Medi 14), am hanner awr wedi dau y p’nawn.

Wedi gêm gyfartal yn erbyn y Barri yn eu gêm ddiwethaf, bydd y Cofis yn gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn Penybont sydd ar waelod Uwch Gynghrair Cymru ar ôl chwarae pum gêm.

“Rydym wedi perfformio’n eithriadol ers ein gêm gartref olaf yn erbyn Derwyddon Cefn,” meddai rheolwr Caernarfon, Sean Eardley.

“Wnaethon ni ddangos cymeriad aruthrol ar ôl mynd ar ei hôl hi ddwywaith i ennill y gêm yn Airbus ac yr oedd peidio ildio gôl yn y Barri wythnos diwethaf yn wych. Rwy’n credu y gallen ni fod wedi curo’r gêm honno hefyd i ddweud y gwir.

“Mae wedi bod yn ddechrau anodd i fywyd yn y gynghrair uchaf i Benybont ond, ar ôl gwylio eu gemau, maen nhw wedi cystadlu ym mhob un gan gynnwys rhoi gêm agos iawn i TNS.

“Felly rydyn ni’n gwybod ein bod ni am gael gêm galed.”