Mae’n debyg mai dim ond 6,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Belarws heno (dydd Llun, Medi 9).

Mae’r ffigwr yn debygol o fod yn siomedig gan fod Stadiwm Dinas Caerdydd yn gallu dal hyd at 33,280 o gefnogwyr.

Nid yw’n glir faint o docynnau mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn disgwyl eu gwerthu heddiw.

Ennill o ddwy gôl i un oedd hanes Cymru yn erbyn Azerbaijan, gyda Gareth Bale yn sgorio’r gôl fuddugol efo pum munud i fynd.