Mae Daniel James wedi gwneud dechrau gwych i’w yrfa yn Manceinion, ond mae un o’i gyn gyd-chwaraewyr yn Abertawe yn credu y bydd yn cadw ei ben i lawr, yn hytrach na’i golli.

Yn ôl Joe Rodon, sydd wedi dod trwy Academi Abertawe gyda Daniel James, fydd y llwyddiant cynnar ddim yn mynd i’w ben.

“Rwy i wedi tyfu lan gyda Daniel, ac mae e’n fachgen grêt,” meddai. “Mae e wedi dechrau yn wych i United, gobeithio y bydd e’n gallu cario ymlaen i wneud hynny.”

Mae Joe Rodon a Daniel James yng ngharfan Cymru i wynebu Azerbaijan nos Wener (Medi 6).