Fe orffennodd y gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn Rodney Parade, ddwy gol yr un, gydag Angharad James a Kayleigh Green yn sgorio i Gymru.

Roedd y ddau dîm yn dod i mewn i’r gêm ar ôl sgoriau o 6-0 yn eu gemau agoriadol. Roedd Cymru wedi curo Ynysoedd Faroe, tra bod Gogledd Iwerddon wedi cael crasfa gan Norwy.

Gyda llai na munud i fynd, roedd hi’n edrych fel petai Cymru am gipio’r triphwynt, nes i gamgymeriad gan gol-geidwad Cymru Laura O’Sullivan roi’r bêl ar blât i Ashley Hutton sgorio a sicrhau pwynt yn unig i Gymru.