Mae Jayne Ludlow, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, yn dweud ei bod hi’n disgwyl gêm wahanol iawn yn erbyn Gogledd Iwerddon heno (nos Fawrth, Medi 3) o’i chymharu â’r gêm ddiwethaf yn erbyn Ynysoedd Faroe.

Enillodd y Cymry o 6-0 yn eu gêm ragbrofol ddiwethaf wrth iddyn nhw geisio cymhwyso ar gyfer Ewro 2020, ond fe ddaeth y fuddugoliaeth honno yn erbyn un o’r timau gwannaf yn y grŵp.

Ond byddan nhw’n herio tîm Gogledd Iwerddon oedd hefyd wedi colli o 6-0 yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Norwy, un o’r timau cryfaf yn y grŵp.

“Rydyn ni’n falch iawn o gael triphwynt ac mae ein hadferiad wedi mynd yn dda iawn,” meddai’r rheolwr.

“Roedd yn destun balchder ein bod ni wedi mynd ar y blaen mor gynnar ac wedi rheoli’r gêm.

“Wnaeth Gogledd Iwerddon ddim cael y canlyniad roedden nhw ei eisiau yn eu gêm gyntaf, ond byddan nhw’n edrych arnon ni’n wahanol i’r ffordd wnaethon nhw edrych ar Norwy.”

Gartref yn Rodney Parade

Ac mae hi’n dweud y bydd cael chwarae gartref yn Rodney Parade yng Nghasnewydd yn hwb i’r tîm.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cael chwarae yma, mae’r cae yn dda iawn ac mae’r awyrgylch yn addas ar ein cyfer ni.

“Mi fydd hi’n gêm anodd, ac rydyn ni’n disgwyl her wahanol i Ynysoedd Faroe.

“Os yw pobol yn dilyn gêm y merched, byddan nhw’n gwybod fod Norwy yn dîm da iawn. Bydd ein cynllun ar gyfer y gêm yn wahanol iawn i’r un yn erbyn Ynysoedd Faroe.”