Mae’n ymddangos bod Andre Ayew, chwaraewr ymosodol Clwb Pêl-droed Abertawe, am aros yn y Liberty am y tro.

Roedd cryn ddyfalu y gallai adael y clwb heddiw (dydd Llun, Medi 2) ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo Ewropeaidd.

Fe fu pryderon ers tro ei fod e ymhlith y chwaraewyr sy’n ennill yr arian mwyaf, wrth i’r Elyrch geisio addasu i fywyd heb arian mawr yr Uwch Gynghrair.

Fe fydd y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto ym mis Ionawr.

“Dw i eisiau aros,” meddai Andre Ayew ar yr unfed awr ar ddeg, gan roi hwb i dîm Steve Cooper, sydd ar frig y Bencampwriaeth ar ôl curo Leeds o 1-0 yn Elland Road ddydd Sadwrn.

Ac mae wedi datgelu ei fod e wedi gwrthod sawl cynnig gan glybiau ar draws Ewrop er mwyn aros yn Abertawe.

Egluro’i benderfyniad

“Fe fydda i’n onest. Dw i wedi cael sawl cynnig gan glybiau mawr tramor.

“Roedd y clwb yn ymwybodol o’r opsiynau, ond fe wnaethon nhw egluro eu bod nhw am i fi aros.

“Dw i wir yn mwynhau fy mhêl-droed yn Abertawe a does dim byd yr hoffwn i’n fwy na chael aros yn rhan o’r garfan hon.

“Mae pawb wedi fy nghroesawu’n gynnes ar ôl fy nghyfnod ar fenthyg yn Fenerbahce, a dw i wir yn credu yn yr hyn mae’r prif hyfforddwr a’r clwb yn ceisio’i gyflawni.

“Mae’r chwaraewyr eisiau i fi fod o gwmpas a dw i’n hoffi syniadau a chynlluniau’r bos. Dw i’n credu bod hynny’n amlwg o’r ffordd wych ry’n ni wedi dechrau’r tymor.

“Ry’n ni ar frig y gynghrair a dw i eisiau trio helpu’r garfan i aros yno.

“Mae’r cefnogwyr hefyd wedi bod yn anhygoel gyda’r derbyniad maen nhw wedi’i roi i fi, a dw i wir yn edrych ymlaen at ad-dalu’r ffydd maen nhw wedi dangos ynof fi.

“Dw i’n teimlo’n gartrefol yma ac weithiau, rhaid i chi fynd gyda’r hyn mae eich calon yn ei ddweud wrthoch chi.

“Dw i’n credu y gallwn ni gyflawni pethau mawr, a dw i’n barod i barhau i fynd amdani.”

Cyfraniad

Symudodd Andre Ayew i Abertawe yn rhad ac am ddim o Marseille am y tro cyntaf yn 2015.

Sgoriodd e 12 gôl mewn 35 gêm cyn i West Ham ei brynu am £20.5m y flwyddyn ganlynol.

Ond fe ddychwelodd e i’r Liberty yn 2018 ar ôl sgorio 12 gôl mewn 50 gêm, a hynny ar gytundeb tair blynedd a hanner.

Chwaraeodd e 12 o weithiau i’r Elyrch cyn mynd ar fenthyg i Fenerbahce y tymor diwethaf.