Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod e’n hapus â phwynt a llechen lân ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr oddi cartref yn Blackburn.

Dyma’u pwynt cyntaf oddi cartref yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, a’u llechen lân gyntaf yn y gynghrair hefyd.

Tarodd Joe Ralls a Leandro Bacuna y postyn yn ystod y gêm, ond fe safodd Christian Walton yn gadarn yn y gôl i’r tîm cartref ar Barc Ewood.

Tarodd Derrick Williams y trawst yn hwyr yn y gêm i’r tîm cartref.

“Ar y cyfan, ro’n i’n teimlo mai dyma’r canlyniad cywir,” meddai Neil Warnock.

“Dw i’n credu mai ni gafodd y cyfleoedd gorau ond mae’n lle anodd i ddod, fel y gwnaeth Middlesbrough ddarganfod.

“Mae’n braf cael y pwynt cyntaf oddi cartref a’r llechen lân gyntaf hefyd.

“Mae’n anodd mynd oddi cartref i unrhyw le yn y Bencampwriaeth.”