Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud nad oedd y tîm “wedi troi i fyny” tan yr 88fed munud wrth iddyn nhw guro Crewe Alexandra o 1-0 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 24).

Daeth y gôl fuddugol gan Padraig Amond yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau i ymestyn rhediad di-guro’r Alltudion i 15 o gemau yn y Gynghrair Bêl-droed.

Bu’n rhaid iddyn nhw frwydro’n galed am y bêl drwy gydol y gêm, ond fe wnaethon nhw daro’n ôl wrth i Crewe ymosod arnyn nhw wrth iddyn nhw hefyd geisio’r gôl fuddugol.

Mae Casnewydd yn bumed yn y tabl ar ôl y gôl fuddugol ar ôl 93 munud.

“Wnaethon ni ddim troi i fyny tan yr 88fed munud,” meddai’r rheolwr wrth ymateb i’r gêm.

“Roedden ni’n wael heddiw, wna i ddim ceisio gwisgo’r peth i fyny.

“Roedden ni’n wael iawn wrth symud yn ein blaenau.”

Roedd Crewe yn edrych yn gyfforddus ar y bêl mewn gwres llethol o 30 gradd selsiws ar Rodney Parade.

Ond ar ôl gwrthsefyll yr ymosodiadau di-ddiwedd yn ystod yr ail hanner, fe wnaethon nhw roi cyfle i’r ymwelwyr sgorio gyda chwe munud yn weddill, wrth i ergyd tua’r gornel waelod fethu â chyrraedd y nod.

Daeth y gôl fuddugol pan rwydodd Padraig Amond i rwyd wag.