Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei bod yn bwysig i’r cefnogwyr weld chwaraewyr lleol a Chymreig yn torri trwodd i’r tîm cyntaf o’r Academi.

Mae Connor Roberts o Gastell-nedd a Joe Rodon o ardal Llangyfelach yn Abertawe ymhlith y chwaraewyr sy’n chwarae i’r Elyrch yn rheolaidd, ac roedd Daniel James yn y tîm cyn symud i Manchester United.

Mae Declan John a Ben Cabango hefyd wedi ymddangos yn y tîm cyntaf y tymor hwn.

“Mae pawb eisiau gweld bois o’r Academi yn torri trwodd,” meddai wrth golwg360 ar drothwy’r gêm yn erbyn Birmingham yn Stadiwm Liberty ddydd Sul.

“Maen nhw’n cael eu derbyn ychydig yn gynt, on’d ydyn nhw? Ac maen nhw’n cael cryn dipyn o gefnogaeth, sy’n beth cwbl naturiol.

“Mae pob clwb pêl-droed yr un fath.

“Ry’n ni’n amlwg wedi cael cryn dipyn o brofiadau da dros y blynyddoedd diwethaf wrth i chwaraewyr sydd wedi gwneud yn dda i’r Academi dorri trwodd a llwyddo ar y llwyfan mawr.

“Dw i jest yn credu bod hynny’n beth positif i bawb. Mae’r ffans yn hoffi hynny, mae’n wych i’r chwaraewyr eu hunain, ac yna mae elfennau ychwanegol fel ysgogi’r chwaraewyr yn yr Academi.

“Mae pawb ar eu hennill wedyn.”

Y Bencampwriaeth yn haws na’r Uwch Gynghrair?

Yn ystod cyfnod yr Elyrch, yn enwedig dros y tymhorau diwethaf, prin iawn oedd y cyfleoedd i chwaraewyr o Gymru ac yn dilyn ymadawiad Neil Taylor ym mis Ionawr 2017, doedd dim un Cymro yn y tîm cyntaf am gryn amser.

Ers cwympo i’r Bencampwriaeth ac yn sgil trafferthion ariannol y clwb, mae nifer o chwaraewyr ifainc yr Elyrch wedi cael cyfleoedd i chwarae yn y gynghrair ac yn y gwpan.

Ond mae Steve Cooper yn wfftio’r awgrym mai dim ond oherwydd y gwymp i’r Bencampwriaeth mae’r chwaraewyr iau yn cael cyfle erbyn hyn.

“Dydy hi ddim yn hawdd yn y Bencampwriaeth chwaith, cofiwch!

“Mae’n rhaid eich bod chi wedi cyrraedd lefel arbennig fel chwaraewr i ymdopi â’r gofynion.

“Ond fe fyddwn ni’n cynhyrchu chwaraewyr sydd wedi cyrraedd lefel arbennig, dw i’n sicr o hynny.

“Pan ddaw’r amser cywir i gynnig cyfleoedd, fe fydda i’n ymroi i hynny a gobeithio y bydd y chwaraewyr yn cadw eu pennau i lawr ac yn parhau i weithio’n galed pan ddaw’r cyfle, a’u bod nhw’n barod i roi o’u gorau.

“Ond yn nhermau cynhyrchu chwaraewyr, nid dim ond cyfrifoldeb yr Academi yw e – rhaid i ni weithio gyda nhw bob dydd hefyd a’u helpu nhw i dyfu a datblygu.”

Ieuenctid yn talu ar ei ganfed

Boed trwy ddewis neu reidrwydd, mae Steve Cooper yn dibynnu ar y chwaraewyr iau y tymor hwn, ac maen nhw’n sicr wedi plesio hyd yn hyn.

Mae’r Elyrch yn un o bedwar tîm yn unig yn y Bencampwriaeth sy’n dal yn ddi-guro y tymor hwn.

Wrth orffwys y prif chwaraewyr ar gyfer gemau’r gwpan, mae sawl chwaraewr ifanc wedi dod i’r golwg ac wedi disgleirio, gan gynnwys Ben Cabango, y Cymro Cymraeg o Gaerdydd.

Ac mae’n debygol y byddan nhw’n allweddol wrth barhau â rhediad di-guro o 13 o gemau, sy’n ymestyn i’r cyfnod cyn i Steve Cooper gael ei benodi’n olynydd i Graham Potter.

“Mae’n record dda,” meddai Steve Cooper.

“Mae’r chwaraewyr yn hyderus ac mae’r cefnogwyr yn llwyr gefnogi’r tîm.

“Ond dyw e ddim yn fater o droi i fyny yn y Liberty a chredu ein bod ni’n mynd i ennill gêm bêl-droed dim ond achos ein bod ni yno.

“Rhaid i ni wneud iddo fe ddigwydd bob gêm, a dyna’r ydyn ni wedi ei wneud yn y 13 gêm diwethaf.

“Byddwn ni’n canolbwyntio ar hynny er mwyn sicrhau bod gyda ni’r meddylfryd cywir.

“Ry’n ni’n mwynhau bod gartref, ac yn edrych ymlaen at fod yno eto. Ond rhaid i ni ennill yr hawl i fod yno gyda pherfformiad a chanlyniad da.”