Mae Ashley Williams, capten tîm pêl-droed Cymru, wedi cael ei hepgor o’r garfan ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2020 yn erbyn Azerbaijan.

Ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 35 oed yr wythnos hon, fydd e ddim yn ennill cap rhif 87 – dim ond Chris Gunter (95) a Neville Southall (92) sydd wedi ennill mwy o gapiau dros Gymru.

Fe fu heb glwb ers i Everton ei ryddhau dros yr haf, ar ôl treulio’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Stoke, ac mae lle i gredu ei fod e wedi gwrthod cynigion i symud i Roeg, Twrci, y Dwyrain Canol a’r Unol Daleithiau.

Mae adroddiadau y gallai e ymuno â Bristol City, ddeufis yn unig ers y tro diwethaf iddo arwain ei wlad.

Gweddill y garfan

Tra bod Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn dychwelyd ar ôl methu’r gemau yn erbyn Croatia a Hwngari oherwydd anafiadau, mae David Brooks allan o’r garfan ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ffêr.

Does dim lle i Paul Dummett ymhlith yr amddiffynwyr, na’r asgellwr Rabbi Matondo.

Mae Gareth Bale ar gael ar ôl adennill ei le yn nhîm Real Madrid.

Mae tri chwaraewr yn y garfan sydd heb ennill eu cap cyntaf hyd yn hyn – yr amddiffynnwr canol Joe Rodon, y chwaraewr canol cae Joe Morrell a’r ymosodwr Kieffer Moore.

Mae Cymru chwe phwynt y tu ôl i Hwngari ar y brig, ac mae ganddyn nhw gêm wrth gefn dros eu gwrthwynebwyr.

Maen nhw driphwynt y tu ôl i Croatia a Slofacia.

Bydd Cymru’n herio Azerbaijan yng Nghaerdydd ar Fedi 6.

Y garfan: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Connor Roberts, Chris Gunter, Chris Mepham, James Lawrence, Tom Lockyer, Joe Rodon, Neil Taylor, Ben Davies, Ethan Ampadu, Joe Allen, Matthew Smith, Will Vaulks, Jonny Williams, Aaron Ramsey, Joe Morrell, Harry Wilson, Daniel James, Gareth Bale, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn, Kieffer Moore, Ryan Hedges.