Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 na fydd e’n “colli cwsg” wrth fyfyrio ar ffenest drosglwyddo sydd wedi cau heddiw.

Er i’r Elyrch golli cryn adnoddau ymosodol wrth ffarwelio â Daniel James ac Oli McBurnie – gwerth £35m rhyngddyn nhw – mae nifer o wynebau newydd wedi cyrraedd Stadiwm Liberty.

Mae’r garfan wedi’i chryfhau wrth ddenu’r cefnwr chwith Jake Bidwell, yr amddiffynnwr canol Ben Wilmot, y golwr Freddie Woodman, yr asgellwr Kristoffer Peterson a’r ymosodwyr Aldo Kalulu a Sam Surridge.

Tynged yn eu dwylo eu hunain

Ond yn wahanol i ffenestri blaenorol, mae Steve Cooper yn dweud bod tynged yr Elyrch wedi bod yn eu dwylo eu hunain y tro hwn.

“Sefyllfa Oli McBurnie gafodd y sylw mwyaf ers i fi fod yma, wrth reswm,” meddai Steve Cooper.

“Ro’n i bob amser yn teimlo bod y clwb yn rheoli’r hyn roedden ni’n ei wneud, felly doedd dim anghytuno na chyfrinachau ynghylch yr hyn oedd yn digwydd.

“Oherwydd ein bod ni wedi bod yn glir iawn ynghylch y chwaraewyr roedden ni am eu denu yma a’r broses o’u denu nhw, does dim brys mawr wedi bod.

“Roedd ambell beth roedden ni am ei wneud na lwyddon ni i’w wneud yn y pen draw, wna i ddim dweud celwydd am hynny.

“Ond cafodd penderfyniadau eraill eu gwneud yn gyflym.”

Blas cyntaf y rheolwr ar ffenest drosglwyddo

Ac yntau yn ei swydd gyntaf yn rheolwr ar glwb, mae Steve Cooper yn dweud ei fod e wedi dysgu cryn dipyn o’i brofiad cyntaf yn prynu a gwerthu chwaraewyr.

“Pan fo rhywbeth yn digwydd o’ch plaid chi neu yn eich erbyn chi, rhaid i chi symud ymlaen a pheidio â meddwl am y peth yn ormodol. Dyna’r peth mwya’ dwi wedi’i ddysgu.

“Dyw’r peth ddim wedi bod yn wyllt, a dw i ddim wedi colli noson o gwsg yn meddwl, “Beth sy’n digwydd?”

“Dw i ddim eisiau dweud ei fod e wedi bod yn gyfnod tawel, ond dyw e ddim wedi bod i’r gwrthwyneb chwaith.

“Ry’n ni wedi cael rheolaeth ar bopeth sydd wedi digwydd, a dyna’r lle gorau i fod.”

Symud ymlaen

Fe allai’r Elyrch golli sawl chwaraewr eto, wrth i amryw ffenestri Ewropeaidd gau dros y mis nesaf ac mae cryn bwysau ar y clwb i anfon chwaraewyr fel Andre Ayew a Borja Baston allan er mwyn gostwng y bil cyflogau.

Ond â’r prif ffenest ynghau erbyn hyn, gall Steve Cooper droi ei sylw’n llwyr at yr hyn sy’n digwydd ar y cae, wrth deithio i Derby County ddydd Sadwrn.

“Rhaid i ni ganolbwyntio ar y chwaraewyr sydd yma bob dydd nawr, oherwydd mai nhw yw’r cnewyllyn sy’n cynrychioli’r clwb pêl-droed yma ar hyn o bryd ac felly, nhw yw’r grŵp pwysicaf o chwaraewyr.

“Dw i’n credu y bydd pawb yn falch o allu symud ymlaen ar ôl heddiw, jyst oherwydd ei fod dros y lle i gyd – ar SKY, ar y teledu i gyd, yr holl erthyglau…

“Bydd hi’n braf codi yfory a chael gweithio gyda’r grŵp sydd gyda ni yma.”