Mae gan y ddraig goch le amlwg yn hunaniaeth a brand newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Mercher, Awst 7).

Dyma’r tro cyntaf ers degawd i’r corff sy’n gyfrifol am bêl-droed yng Nghymru gyflwyno brand a delwedd newydd.

Yn ôl y Gymdeithas, mae’r ddraig goch yn “eiconig ac wedi’i ysbrydoli gan ein traddodiadau a’n treftadaeth falch sy’n sefyll ac yn edrych ymlaen at ddyfodol powld”.

Mae’r brand newydd yn cwmpasu pob agwedd ar waith y Gymdeithas – o’r tîm cenedlaethol i’r prosiectau amrywiol ar lawr gwlad, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel “brand Cymreig modern ac eiconig”.

Yn ôl y Gymdeithas, mae’r ddraig goch yn “ymgorffori” eu gwaith ar bob lefel yng Nghymru, ac yn symbol o “gryfder, cefnogaeth a gwytnwch”, gan “gofleidio’r gorffennol wrth edrych tua’r dyfodol”.

Tynnu ar dirlun Cymru

Dywed y Gymdeithas fod y ddelwedd newydd o’r ddraig goch yn tynnu ar draddodiad llechi Cymru, gan greu’r “seiliau perffaith” ar gyfer eu hunaniaeth newydd.

Wrth osod y Ddraig Goch ar frest y crysau, mae’r Gymdeithas yn dweud ei bod yn cynrychioli “curiad calon” pêl-droed yng Nghymru ar sawl lefel.

Maen nhw’n dweud bod y bathodyn yn perthyn i bawb – o’r chwaraewyr i’r cefnogwyr – ac yn symbol o’u “dyhead parhaus i ennill”.

Bydd y bathodyn newydd yn cael ei wisgo am y tro cyntaf yn ystod gemau mis Tachwedd, pan fydd cit newydd yn cael ei lansio.

Bydd yr arwyddair ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ yn cael lle amlwg ar gefn coler y crysau, ynghyd â’r genhinen pedr, yn symbol o “undod”, a phob un yn cynrychioli’r amryw gynghreiriau a lefelau sy’n dod o dan arweiniad y Gymdeithas.

Mae lliwiau a theip yr ysgrifen ar y logo newydd yn adlewyrchu tirlun Morgannwg, Cwm Rhondda ac Eryri fel ei gilydd, meddai’r Gymdeithas.

Ymgynghoriad

Daw’r brand newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus â’r cefnogwyr.

Dywedodd 75% o’r cefnogwyr mai ‘Cymru, Cymraeg, Cymreig’ yw’r geiriau cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth weld y bathodyn am y tro cyntaf.

Dywedodd 25% mai ‘pêl-droed’ oedd y gair cyntaf sy’n dod i’r meddwl.