Mae Manchester United yn herio Milan mewn gêm gwpan cyfeillgar yn Stadiwm Principality Caerdydd heddiw (4.30yp, dydd Sadwrn, Awst 3).

Ond mae’r Saeson, o dan reolaeth cyn-reolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer, heb nifer o wynebau cyfarwydd, gan gynnwys Alexis Sanchez, Romelu Lukaku, Matteo Darmian a Joel Pereira.

Dydy ffitrwydd Alexis Sanchez ddim yn ddigon da ar ôl bod yn chwarae yn Copa America, tra bod disgwyl i Romelu Lukaku adael y clwb am yr Eidal yn fuan.

Mae Manchester United yn ddi-guro yn eu gemau cyfeillgar hyd yn hyn, ar ôl trechu Perth Glory, Leeds, Inter Milan, Spurs a Kristiansund.

Paratoi

“Gosod y sylfeini ar gyfer y tymor yw diben paratoi cyn dechrau’r tymor,” meddai Ole Gunnar Solskjaer.

“Rydyn ni wedi gwneud yn dda iawn ac wedi ennill pum gêm, ond nid dyna’r pwynt.

“Rydych chi am osod eich egwyddorion, sut rydych chi am chwarae a’r gwaith ffitrwydd.

“Rydyn ni wedi edrych yn fwy siarp a dw i’n credu ein bod ni’n edrych yn gryf ar gyfer y penwythnos cyntaf.

“Gobeithio ein bod ni wedi dechrau rhywbeth.

“Rydyn ni wedi cael pum wythnos o waith da.

“Roedd y bois yn eitha’ ffit pan ddaethon nhw’n ôl, ac mae’r gwaith tactegol wedi bod yn dda hefyd.”