Mae Osian Roberts yn awgrymu bod ei siom o fethu â sicrhau prif swydd pêl-droed Cymru y llynedd wedi cyfrannu at ei benderfyniad i adael Cymdeithas Bêl-droed Cymru a mynd am Foroco.

Wrth chwilio am olynydd i Chris Coleman, cafodd Ryan Giggs ei benodi i’r brif swydd, er bod Osian Roberts wedi aros yn rhan o’r tîm hyfforddi.

Daeth cadarnhad nos Iau y bydd Osian Roberts yn dechrau ar ei swydd yn gyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Moroco ym mis Medi, gan adael Cymru ar ôl 12 o flynyddoedd.

Cafodd yr hyfforddwr 54 oed ei benodi i dîm hyfforddi Gary Speed yn 2010, gan fynd yn ei flaen i weithio gyda Chris Coleman a Ryan Giggs.

Ar ôl llwyddiant y tîm ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc, cafodd ei gyfweld am y brif swydd y llynedd.

Datganiad

“Wna i fyth anghofio’r bore pan wnaeth Gary Speed ofyn i mi fod yn gynorthwyydd iddo fo,” meddai Osian Roberts mewn datganiad ar ei dudalen Twitter.

“Moment fwyaf balch fy ngyrfa broffesiynol.

“Ychydig a wyddwn pa dristwch oedd o’n blaenau a dw i’n meddwl amdano fo o hyd.

“Daeth Chris Coleman a fi ynghyd, priodas nefolaidd, ac o’r tristwch wnaethon ni greu fformiwla i greu hanes ac ro’n i wrth fy modd bob eiliad.

“Yn dilyn hynny, wnes i wirioneddol feddwl ’mod i’n barod ar gyfer y ‘brif swydd’ ond yn eu doethineb, roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n meddwl yn wahanol.”

Er ei siom, mae’n diolch i Ryan Giggs, gan ddweud bod ganddo fe bob ffydd yn y rheolwr, sy’n “un o’r chwaraewyr gorau erioed”.

Wrth gyhoeddi’r datganiad, fe ddatgelodd ei fod e wedi gwrthod swydd rheolwr cynorthwyol gydag un o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr.