Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn awyddus i sicrhau bod y chwaraewr canol cae Bersant Celina yn sgorio mwy o goliau y tymor hwn.

Yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb yn 2018-19, sgoriodd e wyth gôl a chreu saith ar draws yr holl gystadlaethau.

Ond mae’r chwaraewr 22 oed o wlad Cosofo yn awyddus i rwydo’n fwy aml ar ôl sgorio tair gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Sgoriodd e gyda chic rydd yn erbyn Caerwysg ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20), gan greu gôl arall, ac fe sgoriodd e yn erbyn Yeovil yr wythnos ddiwethaf.

“Byddai Bersant yn cyfaddef ei hun fod angen iddo fe sgorio mwy o goliau nag y gwnaeth e’r tymor diwethaf oherwydd mae e’n ddigon abl yn dechnegol i wneud hynny,” meddai Steve Cooper.

“Cawson ni sgwrs aeddfed iawn yn Sbaen ac fe wnaeth e grybwyll ei fod e’n meddwl y dylai e fod yn creu a sgorio mwy o goliau.

“Dw i’n cytuno gyda fe oherwydd, fel dw i’n dweud, mae e’n abl.

“Felly rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n ei helpu fe i ymarfer hynny bob dydd a’i herio fe i barhau i wella.”

Gwisgo crys rhif 10

Dywed Steve Cooper fod yna ddisgwyliadau ychwanegol pan fo chwaraewr yn gwisgo crys â rhif 10 arno fe.

“Os ydych chi’n gwisgo rhif 10 i Abertawe, mae disgwyl i chi greu a sgorio, a dyna dw i’n ei ddisgwyl gan chwaraewr sy’n chwarae yn y safle hwnnw i ni.

“Mae e’n barod am yr her ac mewn lle da.

“Wnaeth e ddim cael cymaint o seibiant â phawb arall ar ôl bod ar ddyletswydd ryngwladol ac fe ddaeth e’n ôl yn gryf yn ei goesau, a dyna pham ei fod e wedi chwarae am 45 munud yn unig oherwydd mae ei rifau e’n dda.”