Mae disgwyl i Gareth Bale adael Clwb Pêl-droed Real Madrid yn y dyfodol agos, ar ôl i’r rheolwr Zinedine Zidane ddweud bod trafodaethau ar y gweill gyda chlwb anhysbys.

Daeth cadarnhad na chafodd y Cymro ei gynnwys yn y garfan i wynebu Bayern Munich yn y Cwpan Pencampwyr Rhyngwladol neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 20) am fod trafodaethau ar y gweill.

Mae’n dweud bod ei ymadawiad disgwyliedig “er lles pawb”.

“Bydd rhaid i ni weld beth fydd yn digwydd dros y dyddiau nesaf,” meddai’r rheolwr ar wefan y clwb.

“Bydd rhaid i ni weld a fydd e’n cael ei gwblhau yfory, a gorau oll os bydd e.

“Gadewch i ni obeithio, er lles pawb, y bydd yn digwydd yn fuan.

“Mae’r clwb yn ymdrin â’r clwb y bydd yn symud iddo.”

Cyfnod cythryblus i’r Cymro

Ymunodd Gareth Bale â Real Madrid o Spurs am £85m yn 2013 ac er iddo fe gael ei anafu droeon, mae e wedi helpu’r clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith, La Liga a llu o dlysau eraill.

Ond mae llu o glybiau, gan gynnwys Manchester United, Spurs, Bayern Munich ac Inter Milan, wedi cael eu cysylltu â’r Cymro’n ddiweddar.

Does dim awgrym ar hyn o bryd at ba glwb y bydd e’n troi nesaf, ac mae Zinedine Zidane yn dweud nad oes ganddo fe “unrhyw beth yn erbyn” Gareth Bale.

Serch hynny, dydy e ddim bob amser wedi bod yn sicr o’i le o dan y rheolwr Ffrengig.