Fe fydd clwb pêl-droed Bangor yn aros yn eu cynghrair ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wneud tro pedol ar eu penderfyniad i gosbi’r clwb o 42 pwynt fyddai wedi’u gweld yn disgyn i Gynghrair Cenedlaethol Cymru.

Daeth y penderfyniad yn dilyn ail-wrandawid ddoe (Dydd Llun, Mehefin 24).

Cafodd y gosb ei haneru i 21 pwynt sy’n golygu mai yn eu cynghrair presennol, sydd a’r enw newydd – Pencampwriaeth CBDC y Gogledd – fydd Bangor yn chwarae tymor nesaf.

Cafodd y gosb ei chyflwyno ar ôl i Fangor ddefnyddio chwaraewyr anghymwys y tymor diwethaf. Mae’r clwb hefyd wedi cael dirwy o £700 ond fe fyddan nhw’n derbyn costau apêl o £439.20 yn ôl gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fe fydd Holywell Town nawr yn disgyn i Gynghrair Cenedlaethol Cymru wedi wythnosau o ansicrwydd.

Apêl

Roedd disgrifiad clir o gamweddau clwb pêl-droed Bangor gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei roi mewn datganiad ganddynt ar Fai 20.

Ymhlith y prif gamweddau oedd defnyddio chwaraewyr anghymwys yn ystod tymor diwethaf.

Ond yn ystod apêl y clwb yn erbyn rhain ar Fehefin 18, fe gyflwynodd y clwb dystiolaeth newydd yn gwrthbrofi hyn, wnaeth orfodi’r Gymdeithas i ohirio’r gwrandawiad tan ddoe.