Mae rheolwyr timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd wedi bod yn ymateb i restr gemau’r Bencampwriaeth ar gyfer y tymor newydd, sy’n dechrau ar benwythnos cyntaf mis Awst.

Tra bydd yr Elyrch, o dan arweiniad y rheolwr newydd Steve Cooper, yn dechrau gartref yn Stadiwm Liberty yn erbyn Hull, taith i Wigan sy’n wynebu’r Adar Gleision, ar ôl iddyn nhw gwympo o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Roedd Steve Cooper eisoes wedi dweud pa mor awyddus oedd e i ddechrau’r tymor gartref gerbron y cefnogwyr yn Stadiwm Liberty.

Bydd tair allan o bedair gêm gynta’r Elyrch gartref.

“Pryd bynnag y daw tymor newydd, rydych chi bob amser am fod yn eich stadiwm eich hunain gerbron eich cefnogwyr eich hunain,” meddai.

“Felly mae’n beth positif iawn i ni gael y gêm gyntaf honno yn Stadiwm Liberty, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr ati.”

Ar ôl y gêm honno, bydd yr Elyrch yn herio Derby oddi cartref (Awst 10), Northampton gartref yng Nghwpan Carabao (Awst 13), Preston gartref (Awst 17), QPR oddi cartref (Awst 21) a Birmingham gartref (Awst 24).

Caerdydd

Ar ôl y daith i Wigan, bydd yr Adar Gleision yn herio Luton gartref (Awst 10), Reading oddi cartref (Awst 17), Huddersfield gartref (Awst 21) a Blackburn oddi cartref (Awst 24).

Y tro cyntaf i Gaerdydd chwarae yn y Bencampwriaeth, enillon nhw eu pum gêm gyntaf cyn mynd yn eu blaenau i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

“Dw i’n credu mai’r ffordd mae’r gemau wedi cwympo yn ystod hanner cynta’r tymor sydd fwyaf anodd,” meddai Neil Warnock, rheolwr Caerdydd.

“Os gallwn ni fod ynddi o gwmpas adeg y Nadolig, fe fydd yn rhoi cyfle da i ni.

“Dw i ddim yn meddwl y gallai’r dechrau fod yn fwy anodd gartref gyda Luton, sydd wedi’u dyrchafu, ac yna Huddersfield i ddilyn, a Fulham, oedd wedi gostwng gyda ni, ac yna tîm mawr Middlesbrough.

“Maen nhw’n gemau anodd.

“Yn amlwg, mae pob gêm oddi cartref yn y Bencampwriaeth yn heriol hefyd.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n barod amdani pan ddaw’r gic gyntaf.”