Er i glwb pêl-droed Bangor ddod allan o wrandawiad arbennig ddoe yn honni bod eu cosb wedi’i dileu, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eto i gyfagd er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

Mewn datganiad, mae Bangor yn dweud  fod y corff llywodraethu wedi dileu’r gosb o 42 pwynt fyddai’n golygu bod Bangor yn aros yng nghynghrair Huws Gray y tymor nesaf.

Ond mae datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud nad yw’r achos ar ben ac y bydd cyfarfod arall yn rhoi cyfle i swyddogion Bangor gyflwyno mwy o dystiolaeth.

“Yn y gwrandawiad, cyflwynwyd gwybodaeth newydd gan Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, ac roedd y Panel Apeliadau yn teimlo bod angen ei ystyried ymhellach,” meddai’r Gymdethas.

“O ganlyniad, penderfynodd y Panel ohirio’r gwrandawiad tan FMehefin 24, 2019, ac yna bydd y Panel yn ail-ymgynnull i ystyried yr apêl a gyflwynwyd gan Glwb Pêl-droed Dinas Bangor.”

Fe ryddhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddatganiad trylwyr yn ymwneud â nifer o gyhuddiadau yn erbyn y clwb ym mis Ebrill eleni.

Byddai colli’r apêl wedi gweld Bangor yn disgyn i gynghrair is am yr ail dymor yn olynol oherwydd problemau oddi ar y cae.