Fe fydd amddiffynnwr tîm pêl-droed Cymru, Ben Davies, ar gael i chwarae yn erbyn Croatia ddydd Sadwrn (Mehefin 8), ond fe fydd yn dychwelyd adref cyn gêm Hwngari yn Bwdapest dridiau yn ddiweddarach.

Roedd y chwaraewr 26 oed wedi bwriadu cael llawdriniaeth ar ei hernia, ond fe ymunodd â charfan Cymru fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5) cyn gemau rhagbrofol Ewro 2020.

Byddai’r llawdriniaeth wedi ei gadw allan o gynlluniau Ryan Giggs i’r gemau, ond mae’n debygol nawr ei fod yn dechrau yn erbyn Croatia yn Osijek.

Ni ymddangosodd Ben Davies i’w glwb Tottenham Hotspurs yn ffeinal Cwpan y Pencampwyr yn erbyn Lerpwl ar ddydd Sadwrn (Mehefin 1).